Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2017
Amser: 13.42 - 17.23
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Carys Rees, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Helen Jones, Uwch-swyddog Ymchwil Donna Davies, Pennaeth Pensiynau |
Tîm clercio: |
Daniel Collier, Clerc dros dro Sian Giddins, Dirprwy Glerc Lleu Williams, Clerc |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. Ar ran y Bwrdd, llongyfarchodd y Cadeirydd Ronnie Alexander ar ei benodiad i'r Bwrdd a'i groesawu i'w gyfarfod Bwrdd cyntaf.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Lleu Williams, a benodwyd yn Glerc newydd i'r Bwrdd Taliadau. Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Dan Collier am ei waith i’r Bwrdd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad diweddar.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2017.
1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2017.
1.5 Cytunodd y Bwrdd i estyn gwahoddiad ffurfiol i Gadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i'w gyfarfod ym mis Hydref 2017 i drafod y materion a allai ymwneud â gwaith y Bwrdd yn y dyfodol wrth ddatblygu Penderfyniad sy'n addas i'r Chweched Cynulliad.
1.6 Dywedodd yr Ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd y byddai papur yn amlinellu'r broses a ddefnyddir gan Gymorth Busnes yr Aelodau wrth weinyddu hawliadau yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.
1.7 Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer adolygu diogelwch swyddfeydd a chartrefi'r Aelodau a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth atgoffa Aelodau am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt.
1.8 Anfonodd y Bwrdd gydymdeimladau at deulu Sam Gould, uwch-gynghorydd Nathan Gill AC, ac at deulu Ben Davies, dirprwy bennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, yn eu profedigaeth.
1.9 Nododd y Bwrdd y cwestiwn a ofynnwyd yn ystod Cwestiynau'r Cynulliad ar 5 Gorffennaf a chytunodd i ystyried rôl interniaethau cyflogedig gydag Aelodau'r Cynulliad fel rhan o'i adolygiad ehangach o gymorth i Aelodau
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn
- cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai;
- gwahodd Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref 2017;
- paratoi papur sy'n amlinellu'r broses y mae Cymorth Busnes yr Aelodau yn ei defnyddio wrth weinyddu hawliadau; ac
- atgoffa Aelodau o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt o ran adolygiadau diogelwch.
2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar yr adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.
2.2 Cadarnhaodd y Bwrdd eu bod yn fodlon â chyfradd gyfrannu uwch y Comisiwn a chytunwyd i hysbysu Actiwari'r Cynllun, sy'n gosod cyfradd cyfraniad y Comisiwn.
Cam gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn hysbysu Actiwari'r Cynllun o safbwyntiau'r Bwrdd.
3.1 Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad a chytunodd ar:
- gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau ar wefan y Bwrdd a dwyn y crynodeb hwn at sylw'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad; a
- ystyried canlyniadau'r arolwg fel rhan o'i adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'u telerau ac amodau.
Camau gweithredu:
Cytunodd yr ysgrifenyddiaeth ar:
- ymgorffori'r canlyniadau perthnasol i bapurau cwmpasu yn y dyfodol, er enghraifft yr adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad; a
chyhoeddi adroddiad cryno o'r canlyniadau.